Y Prifardd Ceri Wyn Jones i Sgwennu Neges y Ras

Y Prifardd Ceri Wyn Jones o Aberteifi fydd yn ysgrifennu Neges y Ras.

Bydd y neges yma’n cael ei roi y tu fewn i Baton y Ras sy’n cael ei chreu gan Ysgol Gyfun Penweddig. Dyna lle bydd y neges yn aros wrth iddi gael ei phasio fesul cilomedr o law i law o ddechrau’r Ras ym Machynlleth ar ddydd Gwener 13 Medi hyd at ei therfyn yn Aberteifi ar nos Sul 15 Medi. Dim ond yn Aberteifi y caiff hi ei darllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Fydd y baton, fel yr iaith Gymraeg, yn cael ei phasio o berson i berson ar hyd y daith.

“Crwt o Aberteifi ydw i,” meddai Ceri Wyn.

Ceri Wyn i Sgwennu Neges y Ras

Ceri Wyn i gyfansoddi’r Neges


“Mae’n fraint cael fy ngofyn i ysgrifennu Neges Ras yr Iaith gyntaf un. Mae’n gynhyrfus bod yn rhan o ddigwyddiad newydd sy’n cyfuno hwyl a balchder yn yr iaith Gymraeg. Mae’n wych meddwl y bydd cannoedd, os nad miloedd, o bobl yn pasio’r baton ar hyd y daith a phawb, beth bynnag eu gallu iaith, yn awyddus i weld y Ras yn ffynnu.”

Enillodd Ceri Wyn Jones Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1997, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009, ac ef bellach yw Meuryn Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae’n para i deithio ar hyd a lled y wlad (a’r tu hwnt) yn cynnal gweithdai ac yn perfformio ei waith. Astudir cerddi o’i eiddo ar gyrsiau Lefel ‘A’ a Gradd, a chyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, y rhestr fer o dri ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2008. Mae’n gweithio rhan amser fel Golygydd Llyfrau Saesneg i Wasg Gomer yn Llandysul, a gweddill ei amser fel awdur ar ei liwt ei hun. Mae’n briod â Catrin, ac mae ganddynt dri o feibion ac yn byw yn Aberteifi.

Fel un a chwaraeodd rygbi dros Ysgolion Cymru pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, mae natur ymarfer corff Ras yr Iaith hefyd yn apelio at Ceri.

“Er nad wi’n chware unrhyw gêm nawr (heblaw criced, pêl droed a rygbi ar lawnt y bac gyda’r bois), dwi’n para’n ffan mawr o chwaraeon ac mae’n dda gweld menter fel Ras yr Iaith sy’n tynnu ynghyd ‘pobl y pethe’ a ‘phobl y campau’ mewn un digwyddiad hwyliog. Mae’n dda i’r iaith ac yn dda i’n hiechyd!” esboniodd Ceri.

Mae’r arfer o ysgrifennu neges i’w rhoi yn y baton yn un sy’n digwydd ym mhob un o’r rasus iaith yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Yn Iwerddon, syrthiodd y fraint o ysgrifennu neges ei ras iaith gyntaf hwy i Arlywydd y wlad, Mary McAleese.

Llwybr Ras yr Iaith:

Gwener 13 Medi – Machynlleth, Tal-y-bont, Llandre, Bow Street, Penrhyn-coch, Aberystwyth

Sadwrn 14 Medi – Aberystwyth, Llanilar, Tregaron, Llambed, Felin-fach, Aberaeron

Sul 15 Medi – Aberaeron, Cei Newydd, Ffostrasol, Llandysul, Castell Newydd Emlyn, Aberteifi

Tagiwyd: , , , , ,
Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Shwmae! Su’mae! Sut bynnag chi’n ei ddweud e, defnyddiwch e! #ShwmaeSumae21 pic.twitter.com/xVn6otudoW
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Diwrnod i ddathlu amrywiaeth Ieithoedd Ewrop heddiw! Mae’r cyfandir yn gyfoethocach o’u herwydd 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Mae Ras yr Iaith Lydaweg - y @Redadeg yn rhedeg 2,020km ar draws Llydaw - dydd a nos, di-stop! Pob parch a lwc i'r… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis