Crys-T Ras yr Iaith – cyfrannu nid talu!

Crys-T 'retro' Ras yr Iaith

Crys-T ‘retro’ Ras yr Iaith

Mae crys-T Ras yr Iaith ar gael - ‘sdim angen talu, ‘mond cyfrannu!

Gan fod ’2013′ arnynt rydym yn eu rhoi am ddim … neu’n hytrach, gofyn yn garedig am gyfraniad Bargen!

I gael gafael ar y crys-T lliw cwstard yma, cysylltwch gydag un o’r trefnwyr lleol at Ann Joyner yn Cered. Mae’nt hefyd ar gael o Siop JiBinc yn Aberaeron - a cofiwch gael baned neu bryd bwyd yn yr hyfryd Caffe Cwtsh sydd lan star!

Mae gwahanol meintiau: Oedolion: XL, L, M, S a phlant: 5-6 oed a 9-10 oed.

“Dwi’n siwr na fydd y ffaith fod dyddiad 2013 (y flwyddyn y bwriadwyd cynnal y Ras) yn broblem. Rydym yn hoffi meddwl fod y dyddiad yma yn rhoi rhyw deimlad ‘retro’ i’r crys.  Ac fel maen nhw’n dweud, mae ‘hen ffash yn fasiynnol!” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Ras a welir yn modelu’r crys isod.

Mae croeso i chi wisgo’r crys wrth redeg – ond dydy hynny ddim yn ofynnol. Gallwch hefyd redeg yn ffurfwisg yr ysgol, clwb rygbi neu noddwr. Ac wrth gwrs, does dim rhaid i chi redeg er mwyn gwisgo’r crys. Rydym yn ddiolchgar o bob cefnogaeth.

Tagiwyd:
Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Dyma sy'n hyfryd am fod yn rhan o @RasyrIaith - diolch i bawb bu'n noddi, rhedeg a chefnogi Ras 2018. Chi helpodd… twitter.com/i/web/status/1…
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Falch iawn bod @RasyrIaith wedi gallu rhoi grant i'r ŵyl miwsig Cymraeg newydd yma yn Aberystwyth. Diolch i holl re… twitter.com/i/web/status/1…
Rhiannon L Cosslett @rhiannonlucyc
Unbelievably proud to have this on the front page of my newspaper this morning & on the cover of G2. Positive cover… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis