Seremoni Groesawu’r Baton yn Aberteifi

Cafwyd seremoni urddasol, emosiynol ond hefyd di-rodres  i groesawu’r Baton yn haul gwych ar Gei hyfryd Aberteifi am 7.30 nos Wener 20 Mehefin.

Llywyddwyd y seremoni gan Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith a ddiolchodd i bawb bu’n rhan o’r Ras – y rhedwyr, noddwyr, stiwardiaid, trefnwyr lleol, Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Ceredigion a’r bobl ar hyd y ffordd bu’n cymeradwyo’r Ras. Dyweodd fod gwers gan Ras yr Iaith i gefnogwyr y Gymraeg.

“Gyda’n gilydd rydym yn gryf. Os gwnaiff llawer o bobl ychydig bach fe allwn ni gyflawni rhywbeth mawr,” meddai.

Ceri Wyn yn adrodd Neges y RasAdroddwyd Neges y Ras gan y Brifardd Ceri Wyn Jones. Roedd y neges ar ffurf englyn. Cludwyd hi yn y baton yr holl ffordd o Fachynlleth i Aberteif.

Anwerchwyd y dorf gan Faer Aberteifi, y Cyngh Graham Evans a gan Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cyngh Ellen ap Gwynn. Cafwyd gair oddiolch gan Dewi ‘Pws’ Morris a bu’n gweithio’n galed drwy gydol y dydd yn arwain a chodi ysbryd y rhedwyr o gefn Fan y Ras.

Rhoddwyd gair o gymeradwyaeth ac anogaeth i’r Ras gan Marcas Mac Ruairí ar ran y Rith, Ras yr Iaith Wyddeleg. Roedd Marcas wedi teithio’n unswydd i gefnogi Ras yr Iaith Gymraeg ac wedi rhedeg yng Nghasgellnewydd Emlyn ac yn Aberteifi.

Clowyd y digwyddiad gydag araith gan Dafydd Iwan. Canodd ‘Yma o Hyd’ a diweddwyd y seremoni gan ganu’r Anthem.

taflen englyn ceri wyn

Dafydd Iwan yn annerch y dorf:

Dafydd Iwan Cei Aberteifi

Tagiwyd: , , ,
Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Wici Cymru @WiciCymru
Wele drefnydd #Wicimedia Euskara / Gwlad y Basg, Galder gyda phoster Cymraeg / Basgeg @MarchGlas @alwynaphuwtwitter.com/i/web/status/1…
urko aiartza @uaiartza
#Korrika2019 A good example of why they’ll never defeat the basques, no matter what they do. pic.twitter.com/So08qSoAT7
Every 2 years a special relay-race occurs in the Basque Country, it's the #KORRIKA! During 10 days, day&night, the… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis