Ar 20 Mehefin 2014 fe gynhaliwyd Ras yr Iaith – ras di-gystadleuaeth gyfnewid i godi hyder a chodi arian at yr iaith Gymraeg. Cefnogwyd y Ras gan gwmnïau, unigolion a sefydliadau a dalodd £50 i noddi 1 km o’r Ras a gynhaliwyd rhwng Machynlleth ac Aberteifi. Wedi’r holl drefnu a rhedeg roedd gan y Ras £4,000 i’w ddosbarthu ar ffurf grantiau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y cymunedau a gymerodd rhan yn y digwyddiad – ardal Machynlleth, y cyfan o Geredigion ac ochrau Dyffryn Teifi o Sir Gâr a Sir Benfro.
“Roeddem ni’n hynod hapus gydag amrywiaeth a dyfeisgarwch y ceisiadau a dderbyniwyd. Yr uchafswm oedd ar gael i unrhyw un gais oedd £750. Mae rhai ceisiadau wedi derbyn hynny ac efallai wedi derbyn symiau llai. Roeddem ym falch i weld bod trawstoriad o ddigwyddiadau, daearyddiaeth ac ymateb i wahanol sectorau o’r gymdeithas. Wedi’r holl waith a hwyl wrth redeg i godi arian i’r Ras rwy’n siŵr y bydd y rhedwyr a’r noddwyr yn falch iawn gyda’r ymateb a’r syniadau ar sut i wario’r arian grant,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith.
Dyma’r ceisiadau a fu’n llwyddiannus:
Y Groes Goch, canolfan Aberteifi - £750 tuag at cynhyrchu deunydd marchnata yn y Gymraeg a denu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Canolfan Glyndwr, Machynlleth – £750 – tuag at cynhyrchu sioe a deunydd i ysgolion ar hanes Owain Glyndwr
Theatr Troed y Rhiw, Felin-fach – £500 – tuag at cynnal gŵyl ddrama gyntaf y cwmni theatr
Ioga i Bawb, Aberystwyth – £300 – cynnal cyfres o weithdai ioga yn y Gymraeg ac yn arbennig at safon dysgwyr
Cangen Hoelion Wyth Cors Caron – £300 – cynhyrchu deunydd i ddenu aelodau newydd a hyrwyddo digwyddiadau y gymdeithas Gymraeg hon
Rali CFfI Ceredigion, Llandewi Brefi - £300 – nawdd tuag at cynnal Rali flynyddol y Ffermwr Ifainc Ceredigion gyda phwyslais ar adloniant gyfoes Gymraeg
Gŵyl Tregaroc, Tregaron – £300 – nawdd tuag at cynnal gŵyl roc Cymraeg di-dâl yn Nhregaron yn haf 2015
UMCA, Eisteddfod Ryn-golegol - £300 – nawdd tuag at cynnal Eisteddfod Ryn-golegol myfyrwyr Cymraeg a gynhelir eleni yn Aberystwyth
Gŵyl Nôl a Mlân, Llangrannog – £300 – nawdd tuag at cynnal gŵyl roc Gymraeg di-dâl yn Llangrannog yn haf 2015
Cwmni Cymunedol Cletwr, gogledd Ceredigion – £200 – cyfraniad at brynu llyfrau Cymraeg i’w rhoi yn y siop a chaffi gymunedol ym mhentref Tre’r Ddôl.
Am wybodaeth bellach: Siôn Jobbins, post@rasyriaith.cymru 07815 85 78 21
Sylw yn y Wasg
11 Mawrth 2015
BBC Cymru Fyw + sgwrs ar raglen Dylan Jones ar Radio Cymru