Neges gan Bwy yn Baton 2016?

Pwy sy’n haeddu’r anrhydedd o ysgrifennu Neges yr Iaith i’w rhoi yn Baton Ras yr Iaith 2016?

Y Prifardd Ceri Wyn Jones ysgrifennodd neges, ar ffurf englyn, yn y Ras gyntaf a orffennodd yn Aberteifi – tref Ceri. Ond pwy hoffech chi weld yn ysgrifennu’r neges eleni?

Does dim angen i’r person fod yn fardd. A does dim rhaid chwaith fod gan y person berthynas gyda Llandeilo lle bydd y Ras yn gorffen ar 8 Gorffennaf.

Baton Ras yr Iaith

Baton Ras yr Iaith

Efallai hoffech awgrymu llenor; person o faes chwaraeon; ymgyrchydd; perfformiwr; gwleidydd … neu fardd. Caiff bwy bynnag sy’n cael ei ddewis neu ei dewis, yr anrhydedd o ysgrifennu neges.

Caiff y neges yma ei rhoi y tu fewn i’r Baton ar gyfer cychwyn y Ras ym Mangor ar fore Mercher 6 Gorffennaf ac yna ei basio o law i law trwy 24 tref arall nes cyrraedd pen y daith yn Llandeilo ar nos Wener 8 Gorffennaf. Bydd y neges yn cael ei darllen am y tro cyntaf mewn seremoni arbennig fydd yn rhan o ffinale y Ras ym Mhlasdy Newton House yn Llandeilo.

Felly, os hoffech chi awgrymu enw cysylltwch â ni. Y dyddiad cau yw 1 Mehefin 2016.

Cysylltwch drwy:
Ebost – post@rasyriaith.cymru
Twitter – www.twitter.com/rasyriaith

Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Yr Awr Gymraeg @yrawrgymraeg
Dysgu Cymraeg? Predictive text Cymraeg ar gael ar gyfer iPhone ac Android. Welsh predictive text boost for the lang… twitter.com/i/web/status/8…
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Gwych gweld hwyl gwyl @TregaRoc - roedd @RasyrIaith yn falch iawn i gefnogi gyda grant eleni. Rociwch ymlaen Gymru! twitter.com/elinfflur/stat…
Urdd Ceredigion @UrddCeredigion
Gig gyda Al Lewis dechrau Mis Mehefin- Dewch yn llu! Croeso i bawb! Diolch @RasyrIaith am y gefnogaeth!!!! pic.twitter.com/mBLxuE73Fw
S4C BT Cronfa Loteri Fawr Prifysgol Aberystwyth Sefydliad Cymunedol Mentrau Iaith Cymru Cyngor Tref Aberystwyth Llaeth y Llan

Derbynwyd cefnogaeth arbennig i’r Ras gan: Fentrau Iaith Gorllewin Sir Gâr, Penfro, Maldwyn, Conwy a Dinefwr a hefyd mudiadau Hunaniaith, Y Dref Werdd, Canolfan yr Urdd Glan-llyn a’r Sesiwn Fawr.