
Ras123
Helpwch ni i godi arian at iechyd cymunedol yng Nghymru mewn 1, 2, 3! Mwy yma
—————————————————————————————————————–
*Gohirio Ras yr Iaith 2020*
Mae Rhedadeg cyf ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i ohirio Ras yr Iaith 2020.
Yng nghanol yr ansicrwydd sydd ynghylch y Firws Corona dros y misoedd nesaf, penderfynwyd i ohirio’r Ras am eleni. Roedd trefniadau yn mynd rhagddynt, i gynnal Ras yr Iaith mewn nifer o drefi ar draws Cymru ar Orffennaf 7, 8 a 9fed eleni, ond roedd y penderfyniad hwn yn anochel.
Cadwch eich llygaid yn agored ar gyfer cadarnhau dyddiadau ar gyfer Ras yr Iaith 2021!
———————————————————————————————————————————————————————
Diolch yn fawr i Mentrau Iaith Cymru am eu gwaith ymarferol yn trefnu llawer o’r Ras yn 2018. Mae ein diolchiadau i’r Mentrau Iaith unigol lle bydd y Ras yn ymweld â’u trefi – Menter Iaith Fflint a Wrecsam; Menter Iaith Bangor; Menter Iaith Môn; Menter Iaith Conwy; Hunaniaith; Cered – Menter Iaith Ceredigion; Menter Iaith Sir Benfro; Menter Gorllewin Sir Gâr; Menter Bro Dinefwr; Menter Cwm Gwendraeth Elli; Menter Brycheiniog a Maesyfed; Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot; Menter Iaith Abertawe; Menter Iaith Bro Ogwr; a Menter Caerffili
Bydd y ras nesaf yn cael ei chynnal yn 2020. Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth yn hwyrach eleni. Cofiwch gadw llygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.