Cân y Ras – gwrandewch!

Mae Cân Ras yr Iaith nawr ar gael i wrando a mwynhau! Dyma fydd Cân yr Haf 2013!

Mae croeso i chi wneud copi o’r gân i’w roi ar eich gwefan neu ffôn ac i’w chwarae ar y radio.

Cyfansoddwyd y gân gan Dewi ‘Pws’ Morris. Recordiwyd y gân yn stiwdio Fflach yn Aberteifi ac yn gwmni i Dewi oedd y cerddor Dafydd Saer, y gynhyrchydd a’r cerddor, Hefin Elis a grwp ifanc o Ysgol Penweddig yn Aberystwyth, Y Mellt.

Dewi Pws yn recordio Cân y Ras yn stiwdio Fflach.

Dewi Pws yn recordio Cân y Ras yn stiwdio Fflach.

“Mae’r gân yn un hwyliog a hapus yn enwi rhai o’r brif drefi bydd Baton Ras yr Iaith yn teithio drwyddi wrth i ni ‘basio’r baton a phasio’r iaith ymlaen’. Mae tempo y gân hefyd yn berffaith ar gyfer rhedeg Ras yr Iaith. Dyma fydd cân haf 2013 heb os!” meddai Rhodri Francis o Cered bu’n cydweithio gyda grwp y Mellt.

Y Mellt yn recordio Cân y Ras yn stiwdio Fflach.

Y Mellt yn recordio Cân y Ras yn stiwdio Fflach.

Y cam nesaf fydd fideo i gyd-fynd gyda’r gân.

Mae’r Ras yn magu stêm!

Tagiwyd: , , ,
Postiwyd yn Newyddion
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis