Ry’n ni nôl! Mae’r Ras ar y gorwel – rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur – dydd Gwener 20 Mehefin 2014. Dyna’r diwrnod y bydd cannoedd, os nad miloedd o bobl, yn rhedeg yn ystod y dydd mewn 9 gwahanol dref wrth i’r baton yr iaith fynd o law i law fel sonia ein cân gan Dewi Pws.
Mae gwahoddiad i aelodau ysgolion, clybiau, busnesau a mudiadiau rhedeg a chefnogi Ras yr Iaith. Dewch yn rhan o’r hwyl!
Nid Ras gyfnewid gyffredin mo hwn ond rhediad hwyl. Does dim cystadleuaeth – dim ond gofyn i glybiau noddi i redeg 1 cilomedr gan basio baton o un cilomedr i’r llall.
Byddwn yn dechrau ym Machynlleth ben bore ac yn gorffen yn Aberteifi fin nos gan redeg drwy 7 tref arall ar hyd y ffordd.
Mae’n costio £50 i glwb, ysgol neu fusnes noddi 1km. Ond gall gymaint o aelodau’r sefydliad honno ag yr hoffech redeg y cilomedr am ddim cost ychwanegol. Ein bwriad yw gweld cannoedd o bobl ar hyd yn dydd yn rhedeg i ddangos eu cefnogaeth i’r iaith …. ac i gadw’n iach. Bydd yr elw a gesglir o’r Ras yn mynd nôl ar ffurf grantiau i hybu’r Gymraeg yng Ngheredigion, Bro Ddyfi a Dyffryn Teifi.
Mae pwyllgorau lleol yn cael eu sefydlu ar hyn o’r bryd ac rydym yn edrych am redwyr, stiwardiaid a gyrwyr … a phobl i godi posteri! Byddwn dim ond yn rhedeg yn y trefi eleni ac nid rhwng y trefi. Dyma’r amserlen yn fras gyda’r prif bobl cyswllt ym mhob ardal:
- 8.30am – Machynlleth (Mererid, Menter Iaith Maldwyn; Bedwyr Fychan)
- 10.00 – Aberystwyth (Jaci Taylor; Jamie Holder, Siôn Jobbins)
- 1.00pm – Tregaron (Dwynwen Lloyd-Llywelyn)
- 2.00pm – Llambed (Phyl Brake, Carys Lloyd-Jones, Rhys Bebb)
- 3.00 – Aberaeron (Owen Llywelyn, Rhodri Francis)
- 4.00 – Cei Newydd (Owen Llywelyn, Rhodri Francis)
- 5.00 – Llandysul (Keith Evans, Cen Llwyd, Pete Evans)
- 6.00 – Castell Newydd Emlyn (Nia ap Tegwyn Menter Iaith Gorll Sir Gâr)
- 7.00 – Aberteifi (Rhidian Evans Menter Iaith Sir Benfro, Rhian Medi)