Englyn Baton Ras yr Iaith

Dyma’r englyn a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer Ras yr Iaith 2014 gan y Prifardd Ceri Wyn Jones o Aberteifi. Darllenwyd yr englyn ar y Cei yn Aberteifi ar derfyn y Ras gyntaf honno ar ddydd Gwener 20 Mehefin 2014. Yn gymwys ddigon, cynhaliwyd y seremoni wrth droed Castell Aberteifi lle cynhaliodd yr Arlgwydd Rhys yr eisteddfod gofnodedig gyntaf yn 1176.

Rhoddwyd yr englyn hon yn Baton Ras yr Iaith a’i chludo o law i law o Senedd-dy Glyndwr ym Machynlleth i dref Aberteifi ar hyd llwybr y Ras.

 

RAS YR IAITH

Yn ras draws gwlad yr oesau, awn ymlaen

os ymlynwn ninnau

i gario’r baton geiriau

a’i roi’n ôl i rywun iau.

Ceri Wyn yn adrodd Neges y Ras

Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Mae Ras yr Iaith Lydaweg - y @Redadeg yn rhedeg 2,020km ar draws Llydaw - dydd a nos, di-stop! Pob parch a lwc i'r… twitter.com/i/web/status/1…
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Mae'r Llydawyr cryf yn ymladd dros yr iaith yn erbyn dyfarniad Llys Cyfansoddiadol Ffrainc i fychanu a mygu'r iaith… twitter.com/i/web/status/1…
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Pob hwyl i'n cefndryd @Redadeg sy'n rhedeg 2020km yr wythnos hon i godi arian i gefnogi'r iaith Lydaweg Chañs vat!… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis