Grantiau ar gyfer Mudiadau
Ym mis Gorffennaf 2018, rhedodd dros 2,000 o bobl o 15 tref, yn cynnwys Wrecsam, Porthaethwy, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth, Hwlffordd, Caerfyrddin, Rhydaman, Llanelli, Ystradgynlais, Pontardawe, Clydach, Porthcawl, a Caerffili, i ddathlu’r iaith Gymraeg. Dyfarnwyd grantiau rhwng £150 a £750 i fudiadau sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd y trefi uchod, wedi dilyn cais oedd yn dangos blaenoriaeth at hyrwyddo’r Gymraeg.
Dywed Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith.
“Wedi llwyddiant Ras yr Iaith am y trydydd tro eleni, rydym yn falch o weld y ras yn enhangu dros y blynyddoedd i ardaloedd newydd o’r wlad. Rydym yn gobeithio gweld y ras yn tyfu eto yn 2020. Rhan bwysig o Ras yr Iaith yw dosbarthu grantiau o’r arian a godwyd yn ystod y ras i fudiadau lleol er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni. Rydym yn falch i allu gwahodd mudiadau eto eleni i ymgeisio am y grantiau”
Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;
“Roedd hi’n braf iawn eleni gallu dechrau a gorffen y ras yn y Dwyrain gyda’r Mentrau Iaith yn yr ardaloedd hynny yn trefnu cymal am y tro cyntaf. Roeddem yn hapus iawn i groesawu Ras yr Iaith i’r rhanbarth er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd. Mae’r Mentrau yn falch iawn o chwarae rhan bwysig wrth drefnu Ras yr Iaith. Mae’r ras yn gyfle gwych i’r cyhoedd wirfoddoli yn y Gymraeg ac er mwyn y Gymraeg, rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno fwyfwy wrth drefnu Ras yr Iaith 2020.”
Mudiadau llwyddiannus 2018
Ymhlith y mudiadau / sefydliadau fu’n llwyddiannus i gael derbyn grant Ras yr iaith 2018, mae’r canlynol:
Ysgol Cae’r Elen, Hwlffordd
“Bu disgyblion Caer Elen wrthi [wythnos gyntaf mis Mawrth 2019] yn cynnal Wythnos Cyfoethogi Cymreictod. Roedd yr wythnos yn cynnwys amryw o weithgareddau i holl ddisgyblion yr ysgol, er enghraifft Parêd Gŵyl Dewi, diwrnod cadw’n iach drwy’r Gymraeg – gweithdy Yoga Anifeiliaid a sesiwn gan Mr Vaughan, diwrnod y llyfr, sesiwn gyda Marc Griffiths o CymruFM a llawer mwy. Dyma luniau i chi o rai o’r gweithgareddau.
Hoffai Ysgol Caer Elen ddiolch i Ras yr Iaith am y cymorth wrth gynnal yr wythnos hon.”
“Roedden ni fel criw bach wedi bod yn trafod y posibilrwydd o gynnal Gŵyl Aber ers peth amser, ond heb gael yr hyder i fynd amdani o ddifrif. Ras yr Iaith oedd y partner cyntaf i gynnig cefnogaeth ariannol i’r ŵyl, ac er i ni fod yn ffodus i gael cefnogaeth o gyfeiriadau eraill wedi hynny, Ras yr Iaith roddodd yr hwb oedd angen arnom i fwrw mlaen a threfnu’r digwyddiad. Yn syml iawn, fyddai’r ŵyl heb ddigwydd oni bai am gefnogaeth Ras yr Iaith.”
Gwirfoddolwyr
Roedd neges Ras yr Iaith 2018 yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwirfoddolwyr tuag at y Gymraeg, felly, yn ychwanegol eleni, mae yna bwyslais ar ddefnydd gwirfoddolwyr fel rhan amodol o’r ceisiadau grant.
Hoffai Rhedadeg Cyf a Mentrau Iaith Cymru, trefnwyr y ras, ddiolch i’r prif noddwr cenedlaethol, BT, ac ein noddwyr cenedlaethol eraill, Prifysgol Aberystwyth, Tinopolis, Llaeth y Llan, Swyddfa Comisiynydd Yr Heddlu a Throsedd Gwent, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Brecon Carreg, Golwg, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Diolch hefyd i’r mudiadau, sefydliadau, a chwmnïau lleol a noddodd y ras, ac i’r rhedwyr a’r gwirfoddolwyr am wneud y digwyddiad yn bosib.