Llwyddiant i 20 o fudiadau ledled Cymru sydd yn derbyn grantiau, a godwyd fel rhan o Ras yr Iaith 2018, i’w cefnogi i hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned.
Mae trefnwyr Ras yr Iaith, Rhedadeg cyf a Mentrau Iaith Cymru, yn falch o allu darparu grantiau hyd at £750 i fudiadau a sefydliadau lleol, yn dilyn llwyddiant trydedd Ras yr Iaith a gynhaliwyd rhwng 4 – 6 Gorffennaf 2018 a gododd dros £7,500 o elw tuag at yr achos.
Ymwelodd Ras yr Iaith ȃ 15 tref a phentref rhwng Wrecsam a Chaerffili,gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr ar draws y wlad. Bu busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion yn rhoi nawdd o £50 i noddi cymal o’r Ras. Yr elw hwn sy’n cael ei rannu ar ffurf grantiau.
Bydd y Ras yn cael ei chynnal unwaith eto yn 2020, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a balchder yn y Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau ein cymunedau. Mae pwyslais hefyd ar ganolbwynt neges Ras yr Iaith 2018, sef y pwysigrwydd i wirfoddoli tuag at y Gymraeg, a oedd yn amod pwysig wrth ddyrannu’r ceisiadau eleni.
Bydd gwybodaeth am Ras yr Iaith 2020 yn cael ei rannu yn hwyrach eleni.
Dywed Dr Gwenno Ffrancon, Cyd-reolwr Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, un o’r mudiadau i gael derbyn grant eleni:
“Rydym yn hynod o falch o dderbyn y grant hwn gan Ras yr Iaith tuag at sefydlu clwb sgiliau Cymraeg i bobl ifanc yn Nhŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Roedd Tŷ’r Gwrhyd yn ganolbwynt i groesawu Ras yr Iaith i Bontardawe y llynedd, ac fe fydd y grant yn sicrhau bod y bwrlwm a’r brwdfrydedd dros yr iaith a grewyd gan ymweliad Ras yr Iaith i Gwmtawe yn parhau.”
PWY FYDD YN DERBYN GRANTIAU RAS YR IAITH:
Grŵp Llandrillo Menai
Ysgol Bro Gwydir
Ymgyrch Llanrwst
Bocsŵn, Môn
Cyfeillion Ysgol Glantwymyn
Y Selar a Phwyllgor Apêl Aberystwyth Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020
Merched y Wawr, Aberystwyth
Canolfan Deulu Llambed
Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr
Ysgol Caer Elen
Cylch Meithrin Caer Elen
Gŵyl Gymraeg Llanelli
Ysgol Dyffryn Aman
Dawnswyr Penrhyd
Ysgol Gyfun Gymunedol Gellionnen
Tŷ’r Gwrhyd
Urdd Gobaith Cymru – Adran Chwaraeon Abertawe
Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr
Eisteddfod y Cymoedd
Meddwl.org