Ras Rithiol o Gwmpas Cymru i Godi Arian i Iechyd Cymunedol

Mae ymgyrch Ras123 yn galw ar y cyhoedd i redeg un milltir (neu fwy) er mwyn codi arian i elusennau iechyd yng Nghymru yn ystod mis Mai.

Mae’r ymgyrch Ras123 yn cael ei threfnu gan Ras yr Iaith, digwyddiad cenedlaethol sy’n digwydd bob dwy flynedd i godi arian at brosiectau cymunedol a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Roedd Ras yr Iaith 2020 i fod i gael ei chynnal ym mis Gorffennaf eleni, ond mae wedi ei gohirio tan 2021 yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Er hyn, mae Ras yr Iaith ar y cyd â’r Mentrau Iaith dros Gymru yn annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn ras rhithiol er mwyn codi arian tuag at achos da yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd ymgyrch Ras123 yn annog y cyhoedd i ddilyn 3 cam. Cam 1 – rhedeg neu gerdded 1 milltir neu fwy fel bod y ras yn mynd o gwmpas Cymru (pellter Llwybr Arfordir Cymru a llwybr Clawdd Offa) cynifer o weithiau ag y gall yn ystod mis Mai. Cam 2 – bydd gofyn i’r unigolion/ teuluoedd sy’n cymryd rhan enwebu 2 berson arall i gymryd rhan a cham 3 – rhoi £5 neu fwy drwy’r dudalen Go Fund Me Ras yr Iaith.


 

Bydd yr arian fydd yn cael ei godi i ymgyrch Ras123 yn cael ei rannu’n deg rhwng elusennau’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru i fynd tuag at anghenion iechyd cymunedol yn eu hardaloedd, sydd dan straen difrifol wrth ymateb i ddatblygiad y Coronafeirws.

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, sydd yn trefnu’r ymgyrch ar ran Ras yr Iaith;

“Mae Ras yr Iaith, fel arfer, yn codi arian bob dwy flynedd tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru. Ond mae’r sefyllfa yn dra gwahanol eleni ac er y siom o orfod gohirio Ras yr Iaith ar ei ffurf arferol, roeddem yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i ni godi arian rywsut i gefnogi’r ymdrech yn erbyn Coronafeirws.

Penderfynom drefnu ras rithiol, a rydym yn annog pawb o bob oed i gymryd rhan drwy redeg, loncian neu gerdded un milltir, tu fewn neu tu allan – wrth gyd-fynd gyda rheolau ymbellhau cymdeithasol wrth gwrs– yna enwebu dau berson i gymryd rhan a rhoi tair punt i’r achos.

Rydym yn benderfynol bod yr arian a gesglir yn cael effaith ledled Cymru, felly bydd yr holl arian a gesglir yn cael ei rannu rhwng 7 elusen y 7 bwrdd iechyd yng Nghymru fydd yn sicrhau fod pob cymuned yn elwa o’r ymgyrch

Tagiwyd: , , ,
Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Angen i bawb ddod allan i ddangos BALCHDER yn ein hiaith yn ein Ras yr Iaith nesaf 👊 #cyfrifiad2021
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Parch 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Mentrau Iaith @mentrauiaith
C'moooooon @FAWales CYMRU! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿v🇧🇦 Byddwn yn gweiddi yn groch o bob cornel o'r wlad! HENO! Some words to get you… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis