Be’ di Be’?

Beth yw pwrpas Ras yr Iaith?

Pwrpas Ras yr Iaith ydy codi proffil a hyder yr iaith Gymraeg, hyrwyddo iechyd corfforol a chryfhau ein cymunedau.

Fydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol?

Na. Y bwriad yw cynnal Ras yr Iaith bob dwy flynedd. Dyna brofiad a chyngor y rasus eraill (Korrika, Redadeg, Rith).

Ai dim ond siaradwyr Cymraeg gall gymryd rhan yn Ras yr Iaith?

Na. Mae Ras yr Iaith ar agor i unrhyw un sydd am redeg. Er mai hyrwyddo’r iaith Gymraeg yw prif nod y ras a bydd gweinyddiaeth fewnol y ras yn Gymraeg, rydym yn awyddus iawn i ddenu holl gefnogwyr yr iaith i’r Ras a phobl o bob gallu ieithyddol – o’r siadwyr rhugl i’r dysgwr a hefyd y rhai sy’n brin eu Cymraeg.

Oes rhaid i mi noddi cymal i fod yn rhan o Ras yr Iaith?

Mae croeso i unrhyw un redeg yn y Ras ond mae’n rhaid i chi unai redeg fel rhan o grwp sydd wedi talu £50 i noddi cymal neu codi arian nawdd fel unigolyn i redeg.

Sut mae noddi cymal?

Y ffordd orau o ddangos eich bod am noddi cymal neu redeg yw trwy eich pwyllgor bro lleol. Mae’r rhain wrthi’n cael eu sefydlu ar hyn o’r bryd. Os nad ydych yn siwr pwy yw cynrychiolydd eich pwyllgor bro, yna cysylltwch â’ch Menter Iaith leol.  £50 yw lleiafswm noddi cymal – mae croeso i chi gyfrannu rhagor at yr iaith!

Ydy’r Ras yn rhedeg drwy’r nos?

Nac ydy. Mae’r Korrika a’r Redadeg (y rasus tebyg yng Ngwlad y Basg a Llydaw) yn rhedeg yn ddi-stop drwy’r dydd a’r nos ond dydy’r ras yn yr Iwerddon, y Rith, ddim. Bydd Ras yr Iaith yn rhedeg rhwng tua 09.30 a 20.00 gan ddibynnu ar union hyd y llwybr. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn dilyn cymalau mewn rhai trefi ar hyd y ras.

Sut fydd Ras yr Iaith yn helpu’r iaith Gymraeg?

Bydd y profiad o weld miloedd o bobl yn rhedeg dros y Gymraeg yn hwb enfawr i broffil a hyder yr iaith. Bydd hefyd yn hwb i fudiadau Cymraeg ac yn ffordd o dynnu pobl sy’n dysgu Cymraeg i arfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hapus a naturiol. Yn ychwanegol at hynny, bwriad Ras yr Iaith yw y bydd unrhwy elw a wneir o’r Ras yn cael ei roi nôl i’r iaith ar ffurf grantiau i grwpiau neu fentrau sy’n hybu neu defnyddio’r iaith. Caiff hyn ei weinyddu gan Rhedadeg Cyf., cwmni-nid-er-elw a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynnal y Ras ac sy’n delio gydag ochr ariannol y trefnu. Cyfeiriad Rhedadeg Cyf yw ‘Ty Nant’, Rhiw Briallu, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3SE.

Hoffwn fod yn rhan o’r Ras. Beth gallaf wneud?

Gwych! Mae sawl ffordd o helpu. Gallwch:

  • Bod yn rhan o Bwyllgor Bro sy’n gyfrifol am un o gymalau’r ras. Mae angen bob math o bobl a sgiliau o ddosbarthu posteri i yrru fan y Ras!
  • Noddi cymal am £50
  • Gwneud cyfraniad i’r Ras. Bydd unrhyw gyfraniad yn werthfawr yn ariannol (cyn lleiad â £5 neu fwy) neu o ran amser neu nwyddau. Danfonowch sieciau at Rhedadeg Cyf (y cwmni nid-er-elw sy’n gweindyddu ochr ariannol y Ras) at drysorydd y Ras : Rhedadeg d/o Arwel Jones, ‘Garreg Lwyd’, Ffordd Penglais, Aberystwyth SY23 2EU.

Fydd hi’n saff rhedeg ar hyd ffyrdd Cymru ar gyfer y Ras?

Mae diogelwch rhedwyr a chefnogwyr Ras yr Iaith yn holl bwysig i ni. Bydd canllaw diogelwch yn cael ei chyhoeddi a chanllaw i noddwyr cymalau hefyd.

  • Bydd Ras yr Iaith yn cyhoeddu polisi diogelwch ar bob agwedd o’r Ras.
  • Bydd cerbydau swyddogol yn osgordd i’r Ras.
  • Bydd tîm o stiwardiaid yn rhan o’r Ras i sicrhau diogelwch y rhedwyr.
  • Bydd y rhedwyr i gyd yn rhedeg tu ôl fan y Ras fydd wedi ei farcio’n amlwg ac â goleuadau arno. Bydd dim modd ei fethu!
  • Rhoddir siaced llachar i’r stiwardiaid sy’n rhedeg gyda’r Ras i’w wisgo ar hyd y route.
  • Mae Ras yr Iaith yn cydweithio â’r heddlu ac awdurdodau ffyrdd ar holl agweddau o’r llwybr.
  • Bydd meddyg (Dr Richard Edwards, Aberystwyth) yn cysgordi’r Ras ar hyd y route yn un o gerbydau’r Ras.
  • Bydd Ras yr Iaith yn hysbysu’r cyfryngau llwybr gan rybuddio modurwyr o’r digwyddiad.

Oes rhaid bod yn ffit i gymryd rhan?

Gallwch redeg y pellter sydd fwyaf cyfforddus i chi. Beth am ddechrau clwb rhedeg dros dro i baratoi ar gyfer Ras yr Iaith? Bydd y Ras yn dueddol o fod yn arafach o fewn y trefi a’r pentrefi nac yn y darnau mwy gwledig.

Pa gyflymder fydd y Ras yn rhedeg?

Cyflymder cyfartalog y Ras fydd 9 km yr awr (tua 6 milltir yr awr). Mae hyn yn gyflymdra digon hamddenol. Ond rhaid rhedeg!

Beth fydd y neges y tu fewn i’r Baton?

Bydd neges arbennig gyfrinachol tu fewn i’r Baton wedi ei hysgrifennu gan Gymro neu Gymraes amlwg neu gyffredin! Os wyt ti am enwebu rhywun i ysgrifennu’r neges, cysyllta. Caiff y neges ei darllen am y tro cyntaf ar ddiwedd y Ras.

Beth fydd yn digwydd os yw’n bwrw glaw?

Daliwch i redeg! Cymry ydym ni – ry’m ni wedi arfer â glaw!

Gall plant redeg y Ras?

Yn sicr! Gall plant redeg ar ran yr ysgol neu unrhyw glwb neu fudiad o’u dewis.

Pwy sy’n trefnu Ras yr Iaith?

Cefnogwyr sy’n trefnu’r Ras. Rydym yn ddibynnol ar glybiau, mudiadau ac unigolion i roi o’u hamser i wneud i’r digwyddiad positif yma ddigwydd. Tu cefn iddynt mae cefnogaeth ymarferol y Mentrau Iaith dros Gymru. Rhedadeg Cyf (cwmni nid-er-elw) sy’n gweinyddu’r ochr ariannol.

Beth sy’n digwydd i’r £50 fyddwn ni’n talu i noddi cymal?

Gweinyddir ochr ariannol y Ras gan Rhedadeg Cyf. cwmni nid-er-elw a sefydlwyd yn unswydd ar gyfer cynnal Ras yr Iaith. Bydd yr arian yn mynd tuag at gynnal y Ras – talu am bosteri, diesel i’r fan, baneri ac yn y blaen. Os bydd elw ar ddiwedd y Ras yna’r bwriad yw cynnig yr arian ar ffurf grantiau i fudiadau neu fentrau sy’n defnyddio neu hyrwyddo’r Gymraeg.

Oes unrhyw wlad arall yn cynnal ras debyg?

Oes, mae sawl gwlad yn rhedeg dros eu hiaith! Y Basgwyr gafodd y syniad gyntaf gyda’r Korrika yna’r Llydawyr gyda’r Redadeg ac yna’r Gwyddelod gyda’r Rith. Mae’n amser i’r Cymry ddechrau rhedeg dros eu hiaith!

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis