Ynghyd â chael hwyl a dangos cefnogaeth i’r Gymraeg ar ffurf weledol wych a swnllyd, mae gan y Ras bwrpas arall, sef i gasglu arian er budd y Gymraeg yn lleol. Gwneir hyn ar ffurf grant. Mae pob ceiniog mae’r trefi ble cynhelir y Ras yn ei gasglu, yn cael ei fwydo yn ôl i’r gymuned honno ar ffurf grant Ras yr Iaith.
Mae Ras yr Iaith a Mentrau Iaith Cymru yn cynnig y cyfle i fudiadau a grwpiau cymunedol geisio am grant er mwyn hybu’r Iaith Gymraeg yn eu cymunedau.
Lledu’r Gair…
Heledd ap Gwynfor yn cael ei chyfweld gan Mari Grug am grantiau Ras yr Iaith ddarlledwyd ar raglen Heno 8/1/19 (ydy, mae Heledd yn fyr ac angen bocs i sefyll arno!)
Gweinyddir grant Ras yr Iaith gan Rhedadeg Cyf, cwmni nid-er-elw. Rhif 07319257.