2016

Dyma ddywed rhai fu’n llwyddiannus i gael derbyn grant Ras yr Iaith 2016

Gwydion ap Wynn, Rheolydd Prosiect y Dref Werdd:

“Roedd derbyn y grant ariannol gan Ras yr Iaith yn gymorth mawr i’r Dref Werdd wrth i ni drefnu ein digwyddiad cymunedol, Bwrlwm Bro yn 2017. Aeth yr arian tuag at sicrhau diwrnod hynod llwyddiannus i drigolion Bro Ffestiniog wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac gwaith ein prosiect a mudiadau eraill. Roedd ceisio am yr arian yn rhwydd iawn a byddwn yn annog unrhyw menter arall i ymgeisio ac i hyrwyddo’r iaith.”

Dylan Lewis, Pennaeth Adran y Gymraeg Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman:

“Roedd disgyblion yr ysgol wrth eu bodd yn cymryd rhan yng Nghymal Rhydaman o Ras yr Iaith a chael bod yn rhan o ddigwyddiad Cymraeg oedd mor weladwy i bawb yn yr ardal. Y llynedd, roeddem wedi cynnal AMANWYL, sef diwrnod o weithgareddau Cymraeg llawn hwyl i ddisgyblion blwyddyn naw. Roedd yr arian wedi sicrhau ein bod wedi gallu gwahodd Mari Mathias i berfformio, a Marc Griffiths i sylwebu’n Gymraeg yn ystod y dydd gan hwyluso’r trefniadau a sicrhau bod y Gymraeg yn amlwg ac yn glywadwy. Roedd ymgeisio am y grant yn hawdd. Daethom o hyd i’r ffurflen ar y wefan, nodi arni ein cynlluniau ynglyn ag hyrwyddo’r Gymraeg, a’i danfon yn ôl erbyn y dyddiad cau. Ymhen rhai wythnosau, fe gawson y newyddion da drwy ebost ein bod yn derbyn £400! Anhygoel.”

Y MUDIADAU I DDERBYN GRANTIAU RAS YR IAITH FESUL ARDAL:

Ardal Diwrnod 1 (Gwynedd a Sir Conwy):
Menter Iaith Bangor
Dawns i Bawb
Partneriaeth Ogwen
Corwst
Ymgyrch Llanrwst
Y Dref Werdd
Ysgol y Moelwyn
Clwb Rygbi Merched y Bala
Urdd Meirionydd
Sesiwn Fawr Dolgellau
Cylch Meithrin Dysynni

Ardal Diwrnod 2 (Ceredigion):
Cwmni Theatr Arad Goch
Dolen Teifi Llandysul
Eisteddfod Castell Newydd Emlyn a’r Cylch
Theatr Troedyrhiw Llanbed
Cylch Meithrin Talybont
Fforwm Ieuenctid Ceredigion
Cylch Meithrin Aberystwyth
Geidiaid Aberteifi
Merched y Wawr Castell Newydd Emlyn
Clwb Hoci Llandysul
Clwb Ffermwyr Ifanc Trefgaron
Cantorion Aberystwyth
Ysgol Gyfun Aberaeron
Gŵyl y Cynhaeaf
Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid
TregaRoc
Eisteddofd Tregaron
Merched y Wawr Mynach
Gŵyl Nol a Mlan
Cylch Meithrin Felinfach

Ardal Diwrnod 3 (Sir Benfro a Sir Gâr):
Cylch Meithrin Dinbych y Pysgod
Merched y Wawr Ffynonygroes
Eisteddfod Crymych
Gŵyl y Gwter Fawr Rhydaman
Dawnswyr Penrhyd Rhydaman
Ysgol Dyffryn Aman
Cylch Meithrin Llanybydder
Pwyllgor Shwmae Sir Benfro
Clwb Ieuenctid Glanaman
Urdd Port Talbot
Gŵyl Hanes i Blant
Ysgol Bro Ingli
Ysgol y Preseli
Cylch Meithrin Drefach Felindre

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis