Grantiau ar gyfer Mudiadau
Ym mis Gorffennaf 2018, rhedodd dros 2,000 o bobl o 15 tref, yn cynnwys Wrecsam, Porthaethwy, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth, Hwlffordd, Caerfyrddin, Rhydaman, Llanelli, Ystradgynlais, Pontardawe, Clydach, Porthcawl, a Caerffili, i ddathlu’r iaith Gymraeg. Dyfarnwyd grantiau rhwng £150 a £750 i fudiadau sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd y trefi uchod, wedi dilyn cais oedd yn dangos blaenoriaeth at hyrwyddo’r Gymraeg.
Dywed Siôn Jobbins, Cadeirydd Ras yr Iaith.
“Wedi llwyddiant Ras yr Iaith am y trydydd tro eleni, rydym yn falch o weld y ras yn enhangu dros y blynyddoedd i ardaloedd newydd o’r wlad. Rydym yn gobeithio gweld y ras yn tyfu eto yn 2020. Rhan bwysig o Ras yr Iaith yw dosbarthu grantiau o’r arian a godwyd yn ystod y ras i fudiadau lleol er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni. Rydym yn falch i allu gwahodd mudiadau eto eleni i ymgeisio am y grantiau”
Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;
“Roedd hi’n braf iawn eleni gallu dechrau a gorffen y ras yn y Dwyrain gyda’r Mentrau Iaith yn yr ardaloedd hynny yn trefnu cymal am y tro cyntaf. Roeddem yn hapus iawn i groesawu Ras yr Iaith i’r rhanbarth er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd. Mae’r Mentrau yn falch iawn o chwarae rhan bwysig wrth drefnu Ras yr Iaith. Mae’r ras yn gyfle gwych i’r cyhoedd wirfoddoli yn y Gymraeg ac er mwyn y Gymraeg, rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno fwyfwy wrth drefnu Ras yr Iaith 2020.”
Mudiadau llwyddiannus 2018
Ymhlith y mudiadau / sefydliadau fu’n llwyddiannus i gael derbyn grant Ras yr iaith 2018, mae’r canlynol:
Ysgol Caer Elen, Hwlffordd
“Bu disgyblion Caer Elen wrthi [wythnos gyntaf mis Mawrth 2019] yn cynnal Wythnos Cyfoethogi Cymreictod. Roedd yr wythnos yn cynnwys amryw o weithgareddau i holl ddisgyblion yr ysgol, er enghraifft Parêd Gŵyl Dewi, diwrnod cadw’n iach drwy’r Gymraeg – gweithdy Yoga Anifeiliaid a sesiwn gan Mr Vaughan, diwrnod y llyfr, sesiwn gyda Marc Griffiths o CymruFM a llawer mwy. Dyma luniau i chi o rai o’r gweithgareddau.
Hoffai Ysgol Caer Elen ddiolch i Ras yr Iaith am y cymorth wrth gynnal yr wythnos hon.”
“Roedden ni fel criw bach wedi bod yn trafod y posibilrwydd o gynnal Gŵyl Aber ers peth amser, ond heb gael yr hyder i fynd amdani o ddifrif. Ras yr Iaith oedd y partner cyntaf i gynnig cefnogaeth ariannol i’r ŵyl, ac er i ni fod yn ffodus i gael cefnogaeth o gyfeiriadau eraill wedi hynny, Ras yr Iaith roddodd yr hwb oedd angen arnom i fwrw mlaen a threfnu’r digwyddiad. Yn syml iawn, fyddai’r ŵyl heb ddigwydd oni bai am gefnogaeth Ras yr Iaith.” Owain Schiavone
Amanwyl, dyffryn Aman
“Gyda chymorth Ras yr Iaith llwyddom i wahodd y band BWCA i berfformio yn Amanwyl, sef ein diwrnod arbennig o weithgareddau Cymraeg i ddisgyblion blwyddyn 9. Gyda chymorth darparwyr allanol eraill hefyd cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn er mwyn annog y disgyblion i ddefnyddio Cymraeg anffurfiol a hyrwyddo’r iaith mewn ffordd ymarferol.” Dylan Lewis
Meddwl.org
“Mae’r cynlluniau a’r adnoddau hyn wedi eu hysgrifennu gan grŵp o athrawon ac ymarferwyr iechyd meddwl yng Nghanolfan Genedlaethol Plant a Theuluoedd Anna Freud. Maent wedi eu haddasu i’r Gymraeg gan meddwl.org, ac mae’r criw yn falch iawn o fod wedi derbyn nawdd gan Ras yr Iaith i’w caniatáu i argraffu’r pecynnau.” Sophie Hughes
Merched y Wawr, cangen Aberystwyth
“Diolch am y grant a dderbyniodd Merched y Wawr Aberystwyth. Cawsom ddiwrnod difyr yng nghartref Gareth Richards yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn fuddiol i’r dysgwyr yn ein plith yn arbennig i gael diwrnod lle’r roedd y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio’n naturiol i drafod bwydydd, resaitiau a threfnu blodau. Roedd bod mewn awyrgylch mor Gymreig lle cafodd yr aelodau hefyd gyfle i gymdeithasu wedi apelio’n fawr at bob un oedd yn bresennol.” Audrey Evans
Urdd, sir Abertawe




Dawnswyr Penrhyd, dyffryn Aman
“Diolch Ras yr Iaith! Roeddem wrth ein bodd cael derbyn grant Ras yr Iaith. Fel grŵp dawnsio, mae’n anodd disgwyl i deuluoedd wario arian ar y cyfarpar cywir, felly roedd cael derbyn y grant hwn yn hwb enfawr i allu prynu esgidiau pwrpasol ar gyfer y dawnsio. Mae wedi golygu gallu ymestyn y cyfle i blant eraill – diolch yn fawr iawn Ras yr Iaith!” Jennifer Maloney
Ysgol Glantwymyn, Machynlleth
“Derbyniodd Cyfeillion Ysgol Glantwymyn grant o £400 gan Ras yr Iaith i gynnal digwyddiad cymunedol. Roedd derbyn y grant hwn yn golygu ein bod yn gallu talu i gwmni Ynni Da ddod i dair ysgol y ffederasiwn i gynnal gweithdy addysgiadol a hwyliog am ynni ac i ddewis cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer disco. Cawsom ddigwyddiad llwyddiannus iawn hefyd ar ôl y gweithdai, gyda’r plant yn seiclo i gynhyrchu Ynni ar gyfer y disco Cymraeg. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol ac roedd neuadd Glantwymyn yn llawn o bobl oedd yn gysylltiedig ag ysgolion y ffederasiwn a’r gymuned.” Bedwyr Fychan
Radio Menai, Coleg Menai
“Diolch i grant Ras yr Iaith, rydym wedi gallu adfywio gwasanaeth Radio Menai unwaith eto, sef gorsaf radio ddwyieithog a gaiff ei gynnal gan fyfyrwyr Coleg Menai Llangefni a Bangor. O ganlyniad i wersi meitr gan ddarlledwyr profiadol BBC Radio Cymru a Capital Cymru, mae’r myfyrwyr wedi cael eu harfogi o’r sgiliau sydd eu hangen erbyn nhw i gynnal rhaglen radio fywiog, apelgar a ddiddorol. Gobeithiwn y bydd Radio Menai yn mynd o nerth i nerth dros y misoedd nesaf, ac edrychwn ymlaen i glywed yr arlwy pob amser cinio. Cyfrwng cyfathrebu yw’r Gymraeg, ac yn sicr mae presenoldeb Radio Menai yn cyflawni hynny.
Beth am i swyddogion Ras yr Iaith ddod yn westai ar Radio Menai rhyw dro? Dyna syniad da!” Sara Davies & Paul Edwards
Gwirfoddolwyr
Roedd neges Ras yr Iaith 2018 yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwirfoddolwyr tuag at y Gymraeg, felly, yn ychwanegol eleni, mae yna bwyslais ar ddefnydd gwirfoddolwyr fel rhan amodol o’r ceisiadau grant.
Hoffai Rhedadeg Cyf a Mentrau Iaith Cymru, trefnwyr y ras, ddiolch i’r prif noddwr cenedlaethol, BT, ac ein noddwyr cenedlaethol eraill, Prifysgol Aberystwyth, Tinopolis, Llaeth y Llan, Swyddfa Comisiynydd Yr Heddlu a Throsedd Gwent, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Brecon Carreg, Golwg, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Diolch hefyd i’r mudiadau, sefydliadau, a chwmnïau lleol a noddodd y ras, ac i’r rhedwyr a’r gwirfoddolwyr am wneud y digwyddiad yn bosib.