Yn wyneb blwyddyn anodd iawn gyda’r Coronafirws yn sgubo drwy’r wlad a’r byd, gosodwy rheolau ymbellhau cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru olygodd ohirio Ras yr iaith am eleni yn 2020.
OND…
Cynhaliwyd Ras123 yn ei lle – ras rhithiol! Penderfynwyd ein bod eleni yn casglu arian ar gyfer elusennau’r 7 Bwrdd Iechyd drwy Gymru fel ein diolch iddynt am eu gwaith caled mewn cyfnod heriol ac ansicr iawn. Llwyddodd y Ras gasglu ychydig dros £2,300 a dyma’r 7 Bwrdd dderbyniodd gyfran o’r arian:
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan;; Caerdydd a’r Fro; Bae Abertawe; Hywel Dda; Awyr Las; Cwm Taf Morgannwg a Phowys.
Dyma oedd ein neges:
*Helpwch ni i godi arian at iechyd cymunedol mewn 1, 2, 3!*
Gyda Ras yr Iaith wedi gohirio am flwyddyn, ymunwch â ni mewn ras rhithiol o gwmpas Cymru i godi arian at iechyd cymunedol mewn 3 cam bach:
1 – rhedeg/loncian/cerdded
2 – enwebu
3 – cyfrannu!
Beth amdani? 1, 2, 3 Ffwrdd a ni!
Roedd yr ymateb yn galonogol iawn, a gorffennodd y Ras yn ôl ei harfer, â gig cerddorol ar dudalen facebook Ras yr Iaith ar Orffennaf 9fed, 2020! Gallwch ymweld â thudalen facebook Ras yr iaith nawr i weld Gwilym Bowen Rhys a Kizzy Crawford yn canu’n fyw!