Ffurflen Grant Ras yr iaith 2018 yma! Dyddiad cau y ceisiadau yw 08/02/2019
AMODAU GRANT RAS YR IAITH 2018/19
A. CANLLAWIAU
-
Gofynnir i chi ddarllen y wybodaeth isod a llenwi’r ffurflen cais am grant.
-
Cofiwch gynnwys gopi o fantolen ddiwethaf cyfrif banc a chyfansoddiad eich cymdeithas neu sefydliad.
-
Os oes unrhyw gwestiwn cysylltwch â ni- manylion isod.
-
Os bydd eich cais yn llwyddiannus yna byddwn yn danfon ffurflen fer arall atoch i’w llenwi wedi i arian eich grant gael ei wario yn profi i chi wario’r arian yn ôl amodau’r grant.
B. AMODAU
Mae gan Ras yr Iaith hyd at £7,000 i’w roi allan ar ffurf grant. Dyddiad Cau 12pm Dydd Gwener y 8fed o Chwefror 2019.
Mae rhai amodau:
-
£750 fydd uchafswm grant unigol i unrhyw gymdeithas.
-
£150 fydd lleiafswm unrhyw grant.
-
Rhaid i arian y grant fod ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
-
Rhaid i’r gymdeithas neu ddigwyddiad sy’n elwa o’r grant fod o fewn dalgylch agos i’r ardaloedd ble gynhaliwyd y Ras yng Ngorffennaf 2018, sef:
Yn y Gogledd: Wrecsam, Porthaethwy, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth.
De Orllewin: Hwlffordd, Caerfyrddin, Rhydaman, Llanelli
De Orllewin / de ddwyrain: Ystradgynlais, Clydach, Pontardawe, Porthcawl, Caerffili
-
Rhaid gwario’r arian cyn diwedd 31ain o Rhagfyr 2019.
-
Nid yw’r arian grant i’w dalu am nwyddau neu ddeunydd sydd wedi eu talu amdanynt cyn derbyn y grant.
-
Croesewir ceisiadau am grant gan gymdeithasau neu ddigwyddiadau sydd eisoes mewn bodolaeth ond rhoir ystyriaeth arbennig i ddigwyddiad newydd neu gymdeithas sy’n hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd arbennig neu rai llai ei defnydd e.e.: a. Digwyddiad torfol newydd
-
Er budd hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl ifanc
-
Er budd hyrwyddo’r Gymraeg ymysg rhan o gymdeithas nad sydd fel rheol yn derbyn cefnogaeth gan y Gymraeg neu nad sydd efallai wedi bod yn rhan o brif-ffrwd diwylliant Gymraeg
-
Bydd angen dangos sut ceir gwaddol o’r grant h.y. nad digwyddiad ‘one off’ yn unig ydyw. Ni roddir grant fel gwobr mewn cystadleuaeth.
-
Bydd y sawl sy’n llwyddiannus yn profi bod gwirfoddolwyr yn rhan o’r weithgaredd, bydd angen dangos tystiolaeth o hyn.
-
Wrth dderbyn y grant byddwch yn cydsynio i Rhedadeg Cyf, Y Mentrau Iaith a Ras yr Iaith ddefnyddio’r wybodaeth ac unrhyw ddelweddau er mwyn hyrwyddo Ras yr Iaith mewn unrhyw ffordd, unrhyw gyfrwng (print, we, Facebook ayyb) ac unrhyw le.
-
Wrth dderbyn yr arian byddwch yn cytuno i Rhedadeg Cyf, Mentrau Iaith Cymru a Ras yr Iaith hysbysu’r wasg a’r cyfryngau o’ch grant.
-
Wrth dderbyn y grant byddwn yn disgwyl i chi roi cydnabyddiaeth i Ras yr Iaith ac Mentrau Iaith Cymru ar lafar ac ar ffurf logo os bydd hynny’n addas. Gofynnwn i chi hefyd hysbysu pobl o’ch llwyddiant gyda’r grant ar ffurf stori i’r wasg (e.e. papur lleol, papur bro, cylchlythyr) a’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. gwefan newyddion, tudalen Facebook) gyda dolen i dudalen wefan, Facebook neu Twitter Ras yr Iaith.
Edrychwn ymlaen i dderbyn eich cais am grant Ras yr Iaith! Cofiwch mai 12pm dydd Gwener y 8fed o Chwefror 2019 yw’r dyddiad cau. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw gwestiwn.
Fflur Davies, Mentrau Iaith Cymru, Y Sgwar, Llanrwst, CONWY LL26 0LG
Ffôn: 01492 643 401