Mae gan bob ras yr iaith ei chân ei hun, ac ‘Ymlaen, Ymlaen’ gan Dewi ‘Pws’ Morris yw cân Ras yr Iaith Gymraeg. Diolch i bawb a gymerodd rhan yn enwedig Ysgol Ciliau Parc ac Ysgol Tal-garreg a diolch yn arbennig i Theatr Felin-fach a Chwmni Garnfach am y gwaith cynhyrchu. Gallwch lawrlwytho a darlledu’r gân am ddim yma!
Geiriau ‘Ymlaen, Ymlaen’
1.
Mae pob cam bach yn cyfrannu at y gwaith
A phob llathen caled yn bwysig ar y daith,
Dal dy ben i fyny ar hyd y llwybyr maith
Pasia’r baton ’mlan yn y ras i gadw’n iaith.
Cytgan:
Ymlaen, ymlaen rhaid pasio’r batwm ‘mlaen
Yn y ras sy’n dangos cariad at ein hiaith
2.
Trwy Mach ag Aberystwyth i Dregaron yr awn
… yna cyrraedd Llambed yn heulwen y prynhawn
Aberaeron a Llandysul, Castell ôNewy’ dyna ni
Mae’n taith yn dod i ben yn Aberteifi ger y lli.
tôn a geiriau gan Dewi ‘Pws’ Morris, 2013
Mae Cân Ras yr Iaith 2013 yn gân arbennig. Cyfansoddwyd hi gan Dewi Pws Morris a’i recordio yn Stiwdio Fflach yn Aberteifi. Yn cyfrannu i’r gân hefyd mae’r cerddor Dafydd Saer a’r band ifanc o Aberystwyth oedd yn ffeinal ‘Brwydr y Bandiau‘ C2 BBC Radio Cymru 2013, Y Mellt. Cynhyrchwyd y gân gan Hefin Ellis. Bydd y gân i’w chlywed yn bloeddio o fan y Ras gan ddangos i’r fro a’r byd fod y Gymraeg yn fyw, yn hyderus ac yn agored i bawb.
Beth am i chi hefyd fwynhau rhai o ganeuon y gwledydd eraill: