Mae’r frwydr dros yr iaith Gymraeg y frwydr fyd-eang. Mae’n bwysig ein bod ni’n agored i brofiadau ieithoedd eraill.
Mae Ras yr Iaith wedi ei seilio ar rasus hynod llwyddiannus eraill – tro Cymru yw hi nawr i redeg dros ein hiaith! Bydd ein ras ni, fel y rhai eraill, yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn. Yn wahanol i’r Korrika a Redadeg bydd Ras yr Iaith, fel y Rith Wyddeleg, ddim yn rhedeg yn ddi-stop 24 awr. Ystyr korrika, redadeg a rith yw ‘rhediad’. Mae llawer o glipiau ar eu gwefannau ar ar YouTube.
1980: Gwlad y Basg – Korrika
1997: Catalwnia – Correllengua
2000: Galisia – Correlingua
2008: Llydaw – Ar Redadeg
2010: Iwerddon – An Rith
Korrika (Gwlad y Basg)
Sefydlwyd yn 1980. Gweinyddir gan gorff dysgu Basgeg i Oedolion, sef yr AEK. Maent yn rhedeg 24 awr ddi-stop ar draws Gwlad y Basg dros 10 niwrnod. Yn 2013 fe redodd Mike Davies sy’n chwarae rugby i Baiona (Bayonne) yn y Korrika. Mae’r Korrika yn troedio dros bob rhan o Euskal Herria – ochr Ffrainc a lawr i droed Nafarroa. Bydd rhyw 600,000 o bobl yn cymryd rhan gan gynnwys sêr pêl-droed a theledu ac yn codi €3.5m.
Redadeg (Llydaw)
Sefydlwyd yn 2008. Trefnwyd yn wreiddiol o dan adain y mudiad ysgolion, Diwan, ond mae gan y ras bellach gorff yn annibynnol ras. Mae’r Redadeg wedi tyfu pob tro, o’r 800km gyntaf yn 2008 i 1,200km yn 2012. Fel y Basgwyr mae’r Llydawyr yn rhedeg ddydd a nos yn ddi-stop ar hyd 5 departement Llydaw. Mae’r arian a godwyd wedi mynd i sawl fenter gan gynnwys radio bro a chwmni theatr Llydaweg. enwyd y cwmni sy’n gweinyddu Ras yr Iaith, yn Rhedadeg, mewn cydnabyddiaeth i lwyddiant y Llydawyr.
An Rith (Iwerddon)
Sefydlwyd yn 2010. Trefnir gan gorff sy’n cynnwys prif fudiadau’r Wyddeleg. Cynhelir yn Seachtain na Gaeilge (‘Wythnos y Wyddeleg’) sy’n arwain at ddydd San Padrig ym mis Mawrth. Yn 2012 rhedodd y ras rhyw 700km gan gynnwys drwy ddinasoedd mawrion Iwerddon fel Dulyn, Belffast a Deri. Mae’r Rith ond yn rhedeg yn ystod y dydd.