Iechyd a Diogelwch

Mae iechyd a diogelwch rhedwyr a chefnogwyr Ras yr Iaith o’r pwys mwyaf i drefnwyr y Ras. O’r dechrau rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda’r heddlu a’r awdurdodau ffyrdd. Rydym hefyd wedi gwneud defnydd o gyngor hael a pharod trefnwyr ras y Wyddeleg, An Rith, gan fod Gogledd Iwerddon yn rhannu’r un deddfau a ni. Byddwn yn mynd ati i sicrhau fod y digwyddiad yn un saff o ran y llwybr a’r trefniadau. Unwaith bydd manylion llwybr y Ras wedi ei chadarnhau gyda’r awdurodau byddwn yn paratoi canllawiau clir ar gyfer y rhedwyr a’r cefnogwyr.

Canllawiau ar gyfer rhedwyr

Mae angen i’r holl redwyr fod o ffitrwydd ac iechyd safonol ac yn aml i redeg y cilomedr a fwriedir. Nid chaniateir cerdded fel rhan o’r Ras.

Cofiwch wisgo’n addas ar gyfer y tywydd – gwisgwch gap os bydd yr haul yn tywynnu’n gryf a rhowch eli haul ar eich croen. Gwisgwch sgidiau addas at redeg.

Sicrhewch eich bod yn adnabod y llwybr byddwch yn ei redeg. Dyma lwybr y Ras.

Gwrandewch ar gyfarwyddiadau Fan y Ras a’r Stiwardiaid Rhedeg.

Cadwch ddigon o bellter (o leiaf 5 medr) rhwng cefn Fan Ras yr Iaith a chi fel rhedwyr. Mae hyn er mwyn sicrhau na fyddwch yn bwrw mewn i’r Fan os daw i stop sydyn a hefyd i beidio anadlu awyr llygredig. Bydd hefyd yn golygu y bydd gan y cyhoedd well olygfa o’r Ras a chi fel rhedwyr.

Sicrhewch nad ydych yn rhedeg allan i’r lôn wrth ddisgwyl am y Fan na chwaith yn rhedeg ar draws lled y lôn wrth redeg gan fynd i lôn arall. Cadwch o fewn yr un lled â Fan y Ras.

Cynllun Rheoli Digwyddiad Ras yr Iaith 2018 – bydd y cynllun hwn yn sicrhau fod holl faterion iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n cymryd rhan yn y Ras o’r safon uchaf. Byddwn yn mynnu fod holl bobl sy’n cymryd rhan yn nhrefniadau’r Ras yn darllen y ddogfen fydd yn cael ei pharatoi. Cysyllwch â post@rasyriaith.org os am gopi cyflawn.

Polisi ar gyfer pobl ac Anabledd – mae Ras yr Iaith yn croesawu pobl ag anabledd i fod yn rhan o’r digwyddiad.

Polisi Gwarchod Plant – Byddwn yn sicrhau fod diogelwch plant sy’n cymryd rhan yn Ras yr Iaith o’r safon uchaf. Byddwn yn rhoi canllawiau cyn y Ras.

Dyma Dr Richard o Aberystwyth sydd wedi bod gyda ni bob cymal o’r Ras ers ei dechrau yn 2014 – diolch yn fawr iawn iddo! Y newyddion da yw nad ydyw wedi cael llawer o waith erioed yn ystod y 3 Ras!

Dr Richard ein doctor

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis