Cynhelir y Ras yr Iaith 2018 dros 3 diwrnod; dydd Mercher i ddydd Gwener, 4 – 6 Gorffennaf, 2018.
Bydd y Ras yn rhedeg ar gyflymdra cyfartalog o 9km yr awr (6 milltir yr awr) – cyflymdra digon hamddennol. Rydym yn rhedeg drwy ganol y trefi – cyfuniad o briffyrdd y dref a’r strydoedd cefn. Nid ydym yn rhedeg rhwng y trefi – caiff y baton ei drosglwydd o dref i dref yn Fan y Ras. Does dim rhaid bod yn redwr profiadol ond disgwylir fod pawb sy’n rhedeg fod yn iach a ddim yn dioddef o unrhyw anhwylderau i’r galon. Mae’n rhaid rhedeg, nid oes modd cerdded na mynd ar gefn beic.
Bydd cerbyd blaen yn sicrhau fod y rhedwyr yn y man iawn a’r amser iawn cyn fod y Ras ei hun yn cyrraedd. Bydd fan y Ras yn cadw digon o swn ac hwyl fel fod y rhedwyr a thrigolion y fro yn gwybod fod y Ras wedi cyrraedd a bod y Gymraeg yn fyw! Byddwn yn gwerthfawrogi cyfraniad rhedwyr profiadol gall redeg sawl km ac felly cadw trefn ar y Ras a sicrhau fod Ras yn symud yn ei flaen ac yn cadw ar amser. Digoleir y rhedwyr o’r cefn gan fws mini y Ras sydd yn cynnwys Meddyg y Ras, Dr Richard Edwards, Aberystwyth.
Byddwn yn llwytho mapiau o lwybr y Ras yn y trefi gwahanol dros yr wythnosau nesaf. Cadwch lygad ar y dudalen hon. Dilynwch ni ar Twitter (@rasyriaith) a Facebook am y newyddion ddiweddaraf.
Diwrnod 1 – Dydd Mercher, Gorffennaf 4ydd
Tref | Amser | Lleoliad | Cyswllt |
Wrecsam | 09:30 | Llwyn Isaf | Menter Iaith Fflint a Wrecsam – 01352 744040 |
Porthaethwy | 11:45 | Tafarn yr Antelope (dros bont Menai) | Menter Iaith Môn – 01248 725700 |
Bangor | 12:40 | Wrth y cloc, Stryd Fawr | Menter Iaith Bangor – 01248 370050 |
Llanrwst | 14:25 | Canolfan Glasdir | Menter Iaith Conwy – 01492 642357 |
Machynlleth | 16:30 | Canolfan Glyndŵr | Menter Iaith Maldwyn – 01686 610010 |
Aberystwyth | 18:00 | Marine Terrace ar y Prom | Cered – 01545 572350 |
Diwrnod 2 – Dydd Iau, Gorffennaf 5ed
Tref | Amser | Lleoliad | Cyswllt |
Hwlffordd | 09:30 | Picton Place | Menter Iaith Sir Benfro – 01239 831129 |
Caerfyrddin | 11:00 | Eglwys San Pedr | Menter Gorllewin Sir Gar – 01239 712934 |
Rhydaman | 13:00 | 32 Stryd y Cei | Menter Bro Dinefwr – 01558 825336 |
Llanelli | 14:15 | Sunken Gardens | Menter Cwm Gwendraeth Elli – 01269 871600 |
Diwrnod 3 – Dydd Gwener, Gorffennaf 6ed
Tref | Amser | Lleoliad | Cyswllt |
Ystradgynlais | 09:30 | Ysgol Maes y Dderwen | Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed – 07776 296267 |
Pontardawe | 10:30 | Ysgol Gymraeg Pontardawe | Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot – 01639 763819 |
Clydach | 11:30 | Ysgol Gynradd Gellionnen | Menter Iaith Abertawe – 01792 460906 |
Porthcawl | 13:30 | Eastern Promenade | Menter Iaith Bro Ogwr – 01656 732200 |
Caerffili | 18:00 | Castell Caerffili | Menter Iaith Caerffili – 01443 820913 |