Neges y Ras

Fel yn ein chwaer rasus fyddwn ni hefyd yn cynnwys neges arbennig y Ras y tu fewn i’r baton. Gall y neges gael ei hysgrifennu gan unrhyw berson – boed yn amlwg Gymreig a’i peidio – ond caiff neb weld na chlywed y neges nes diwedd y Ras. Beth fydd y neges?

Bydd y neges yma’n cael ei roi y tu fewn i Baton y Ras. Dyna lle bydd y neges yn aros wrth iddi gael ei phasio fesul cymal o law i law o ddechrau’r Ras hyd at ei therfyn. Dim ond ar ddiwedd y Ras y caiff hi ei darllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Fydd y baton, fel yr iaith Gymraeg, yn cael ei phasio o berson i berson ar hyd y daith.

Eleni, gwirfoddolwraig gyda Menter Iaith Sir Ddinbych sydd wedi cyfansoddi’r neges, a lansiwyd ar faes eisteddfod rhyngwladol Llangollen ar Orffennaf 3ydd, 2018:

Ar ddydd Mawth, Gorffennaf y 3ydd, 2018 bu Baton yr Iaith yn cael ei orymdeithio o gwmpas Eisteddfod Rynglwadol Llangollen i gyhoeddi dechreuad Ras yr Iaith 2018. 

Yn ystod cyhoeddiad y Ras bydd neges yn cael ei osod ym Maton yr Iaith a fydd yn cael ei basio o law i law ac o dref i dref dros Gymru cyn cael ei ddarllen ar ddiwedd y cymal olaf yng Nghaerffili nos Wener, Gorffennaf y 6ed. Eleni mae Neges y Ras wedi ei ysgrifennu gan Elena Brown, gwirfoddolwr ifanc gyda Menter Iaith Sir Ddinbych, ac mae’r neges yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwirfoddolwyr tuag at y Gymraeg. Dywed Elena am ei phrofiad yn gwirfoddoli gyda’r fenter;

“Mae llawer o bobl yn cwestiynu beth yw’r pwynt gwirfoddoli a gweithio am ddim, ond ni fydda i wedi cael y profiadau dwi wedi eu cael heb weithio efo’r Fenter a chyfarfod yr holl bobl dros y cyfnod efo nhw. Mae’r profiadau wedi bod yn ddiddiwedd ers cychwyn yno, dros faes eang oedd yn gorchuddio gwaith hefo nifer o oedrannau. Roedd o’n brofiad gwych medru bod yn rhan o waith y Fenter, gan ei fod yn pwysleisio’r hwyl sydd i’w gael wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol a chymdeithasol.”

 Dyma’r tro cyntaf i Ras yr Iaith ymweld â Dwyrain Cymru ac hefyd i’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Dywed Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych;

“Rydym yn falch iawn o groesawu Ras yr Iaith i Ogledd Ddwyrain Cymru am y  tro cyntaf, a lle gwell i wneud hyny nag yn yr Eisteddfod Ryngwladol yma yn Llangollen ble mae cystadleuwyr o 28 gwlad, a chwe cyfandir yn ymuno a dwyieithrwydd (neu amlieithrwydd) yn norm.  Mae lawnsio’r ras a’i neges gyda phlant ysgolion cynradd yr ardal ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Ryngwladol 2018 yn gyfle i arddangos yr iaith i bobl o dros y byd ac yn gyfle iddynt ymuno yn y dathlu.”

Bu gorymdaith lansio’r ras yn dechrau ar faes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am 13:30 dydd Mawrth, Gorffennaf 3ydd. Elena Brown Baner a thorf Martyn Geraint MG a thorf Torf Llangollen

Lluniau uchod, o lansiad y Ras ar faes eisteddfod Llangollen, Gorffennaf 3ydd 2018

Dyma neges y Ras isod, a llun o Baton yr Iaith:

Neges y Ras 2018Baton yr Iaith

Cyfansoddwr Neges y Baton yn 2014

“Crwt o Aberteifi ydw i,” meddai Ceri Wyn.

Ceri Wyn i Sgwennu Neges y Ras

Ceri Wyn i gyfansoddi’r Neges

“Mae’n fraint cael fy ngofyn i ysgrifennu Neges Ras yr Iaith gyntaf un. Mae’n gynhyrfus bod yn rhan o ddigwyddiad newydd sy’n cyfuno hwyl a balchder yn yr iaith Gymraeg. Mae’n wych meddwl y bydd cannoedd, os nad miloedd, o bobl yn pasio’r baton ar hyd y daith a phawb, beth bynnag eu gallu iaith, yn awyddus i weld y Ras yn ffynnu.”

Enillodd Ceri Wyn Jones Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1997, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009, ac ef bellach yw Meuryn Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae’n para i deithio ar hyd a lled y wlad (a’r tu hwnt) yn cynnal gweithdai ac yn perfformio ei waith. Astudir cerddi o’i eiddo ar gyrsiau Lefel ‘A’ a Gradd, a chyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, y rhestr fer o dri ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2008. Mae’n gweithio rhan amser fel Golygydd Llyfrau Saesneg i Wasg Gomer yn Llandysul, a gweddill ei amser fel awdur ar ei liwt ei hun. Mae’n briod â Catrin, ac mae ganddynt dri o feibion ac yn byw yn Aberteifi.

Fel un a chwaraeodd rygbi dros Ysgolion Cymru pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, mae natur ymarfer corff Ras yr Iaith hefyd yn apelio at Ceri.

“Er nad wi’n chware unrhyw gêm nawr (heblaw criced, pêl droed a rygbi ar lawnt y bac gyda’r bois), dwi’n para’n ffan mawr o chwaraeon ac mae’n dda gweld menter fel Ras yr Iaith sy’n tynnu ynghyd ‘pobl y pethe’ a ‘phobl y campau’ mewn un digwyddiad hwyliog. Mae’n dda i’r iaith ac yn dda i’n hiechyd!” esboniodd Ceri.

Mae’r arfer o ysgrifennu neges i’w rhoi yn y baton yn un sy’n digwydd ym mhob un o’r rasus iaith yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Yn Iwerddon, syrthiodd y fraint o ysgrifennu neges ei ras iaith gyntaf hwy i Arlywydd y wlad, Mary McAleese.

 

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis