Dyma fideo fydd yn ceisio esbonio beth yw’r Ras a beth yw ei fanteision. Ffilmwyd hi ar ddiwedd ras y Korrika – ras yr iaith yng Ngwlad y Basg. Fe welwch miloedd ar filoedd o bobl yn rhedeg trwy strydoedd Gernika (y dref enwog a fomiwyd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen) a mwy fyth ar hyd strydoedd Donostia (San Sebastian). Yn y fideo gwelir Soazig o Lydaw a Begotxu o Wlad y Basg – ill dwy wedi cymryd rhan yn y Redadeg a’r Korrika – ac yn esbonio yn y Gymraeg beth yw apêl ras yr iaith. Bwriadwyd yn wreiddiol alw Ras yr Iaith yn ‘Rhedadeg’ fel cydnabyddiaeth i’r ras Lydewig a hefyd i fathu term newydd.
Hybu’r Gymraeg: Tynnu siaradwyr Cymraeg, Cymry Cymraeg, pobl di-Gymraeg a dysgwyr at eu gilydd.
Hybu Mudiadau Cymraeg: Cyfle i gryfhau mudiadau Cymraeg a clybiau drwy godi proffil ac arian mewn digwyddiadau ar hyd y daith.
Uno Cymru a’r Gymraeg: Bydd y Ras yn cysylltu ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg eu hiaith, trefol a gwledig, breintiedig a difreintiedig gan ddangos amrywiaeth siaradwyr Cymraeg.
Codi Proffil y Gymraeg: Bydd yn denu sylw yn y cyfryngau Cymraeg a Chymreig yn genedlaethol ac yn lleol, ac yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar y we. Bydd yn ffordd bositif o ddangos fod y Gymraeg yn iaith ac iddi filoedd o gefnogwyr.
Codi Proffil Cymunedau: Tynnu sylw at fudiadau a sefydliadau cymunedol a chryfder cymunedau ar hyd y daith.
Hybu Iechyd Corfforol: Bydd yn hyrwyddo iechyd corfforol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ffordd o Gymreigio clybiau athletau a chlybiau chwaraeon eraill sy’n cymryd rhan.
Codi arian: Buddsoddi’r elw o’r ras yn ôl i fudiadau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Gweinyddir yr arian a godir gan Rhedadeg Cyf – cwmni nid-er-elw a sefydlwyd yn unswydd i gefnogi’r ras.