Y Baton

Fel pob un o’n chwaer rasus, bydd baton arbennig i Ras yr Iaith. Caiff hwn ei basio o law i law ar hyd y siwrne hir. Fel y baton rydym am weld yr iaith Gymraeg yn cael ei phasio ar hyd y daith – o bentref i bentref; cenhedlaeth i genhedlaeth; siaradwr iaith gyntaf i siaradwr ail iaith; Cymro i dramorwr.

Yn wahanol i’r digwyddiadau eraill byddwn ni’n naddu baton unigryw ar gyfer pob gwahanol flwyddyn. Fel cadeiriau yr Eisteddfod Genedlaethol gobeithiwn y gallwn, maes o law, roi bri a sylw i grefftwaith Gymreig.

Crëwyd y baton gan Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn Aberystwyth. Cafodd ei noddi gan Mentrau Iaith Cymru

Baton yr Iaith

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis