Gallwch gymryd rhan drwy:
Pwy all gymryd rhan?
Unigolion
Gall unigolion gefnogi’r ras drwy redeg, noddi, cyfrannu tuag at ddigwyddiad dathlu, mynychu’r dathlu, gwirfoddoli gyda’r trefnu, lledaenu’r neges.
Grŵp
Gall grŵp neu fudiad gefnogi’r ras drwy redeg, noddi, trefnu digwyddiad dathlu, cynnal stondin mewn digwyddiad dathlu, mynychu’r dathlu a lledaenu’r neges.
Busnes
Gall busnes gefnogi’r ras drwy redeg, noddi cymal, noddi’r ras gyfan (rhoddir cydnabyddiaeth i hyn drwy arddangos logo neu enw’r busnes ar holl ddeunydd marchnata), trefnu digwyddiad dathlu, cynnal stondin mewn digwyddiad dathlu, mynychu’r dathlu, lledaenu’r neges. Bydd yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth bositif a hapus i’r Gymraeg a’r gymuned leol.