Gwirfoddoli

Mae rhan gan bawb i chwarae wrth basio ymlaen baton yr iaith, ac mae rhan gan bawb i’w chwarae yn Ras yr Iaith!

Mae llwyddiant y ras yn dibynnu’n llwyr ar gymunedau lleol a gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i drefnu llwybr y ras, dathliadau a lledaenu’r neges o bwysigrwydd Ras yr Iaith yn lleol. Gallwch ymuno gyda’ch pwyllgor lleol sy’n cydlynu’r pethau hyn. Rydym yn edrych am bobl i:

  • Codi a dosbarthu posteri
  • Bod ar bwyllgor Hyrwyddo’r Ras
  • Bod yn rhan o dîm cerbydau’r Ras
  • Bod ar bwyllgor iechyd a diogelwch y Ras
  • Bod ar gael fel meddyg neu person cymorth cyntaf
  • Stiwardio ar y dydd

Er mai Cymraeg yw unig iaith swyddogol y Ras, mae croeso mawr iawn i bobl nad sy’n rhugl i gymryd rhan yn y Ras a’r trefniadau. Fe wnawn ein gorau i sicrhau fod pawb yn rhan o’r dathlu.

Cysylltwch gyda’ch Pwyllgor Bro, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol neu Ras yr Iaith:

ffôn – 01545 572350

ebost - post@rasyriaith.org

Twitter – www.twitter.com/rasyriaith

Facebook – www.facebook.com/rasyriaith

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis