Nawdd

Mae Ras yr iaith yn ffodus iawn i dderbyn rhoddion hael gan fudiadau a sefydliadau ledled Cymru.

Noddi Cymal

Bydd y £50 a godir am noddi pob cymal hefyd yn cyfrannu tuag at gynnal Ras yr Iaith. Wrth noddi cymal byddwch yn dangos eich bod wedi buddsoddi arian yn iechyd yr iaith, iechyd corfforol ac iechyd cymunedol. Os y byddwch yn noddi cymal, yna bydd disgwyl i chi, neu rywun rydych yn ei enwebu, i redeg gyda ni.

Cysylltwch gyda’r Fenter Iaith leol er mwyn trefnu talu nawdd.

Bydd yr arian yma yn mynd yn syth fewn i dalu am adnoddau’r Ras ac, os bydd elw, yn ôl ar ffurf grantiau i fudiadau neu grwpiau sy’n defnyddio ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.

Noddi’r Ras yn Genedlaethol

Ydych chi’n fudiad cenedlaethol, yn fusnes mawr ac eisiau rhoi rhywbeth nol i’r gymuned er lles y Gymraeg? Dyma gyfle gwych i wnued hynny.

Os hoffech chi noddi’r Ras yn genedlaethol, cysylltwch am fwy o wybodaeth drwy ebostio: Heledd ap Gwynfor, Swyddog Datblygu Mentrau Iaith Cymru ar heledd@mentrauiaith.cymru

Eisiau cyfrannu mewn ffordd wahanol?

Mae croeso i chi wneud cyfraniad cyffredinol tuag at y Ras os nad ydych yn gallu rhedeg y Ras neu yn ychwanegol at redeg.

Byddwn yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a bydd yr arian i gyd yn mynd tuag at cynnal y ras unai i dalu am waith print, deunydd hyrwyddo, stiwardio neu’r amryw o bethau mawr a bach arall sy’n hanfodol i ni cynnal y digwyddiad pwysig yma.

Gwnewch y siec yn daladwy i Rhedadeg Cyf (y cwmni nid-er-elw sy’n gweinyddu’r Ras). Gallwch ddanfon siec at y cyfeiriad yma:

Rhedadeg Ltd
d/o ‘Garreg Lwyd’
Ffordd Panglais
ABERYSTWYTH
SY23 1RY

Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis