Rhedwch gyda ni!
Bydd cyfle i unigolion, teuluoedd, busnesau, clybiau, sefydliadau neu ysgolion noddi i redeg cymal gan gario’r baton sy’n cynnwys neges arbennig y tu mewn iddo. Gall holl ddisgyblion yr ysgol neu holl aelodau tîm pêl-droed y pentref redeg y cymal. Mae croeso i bobl barhau a rhedeg mwy nag un cymal gan ymuno â noddwyr eraill. Yn wahanol i rasus eraill nid oes angen casglu nawdd bersonol, noddi’r cymal sy’n bwysig nid nawdd unigolion.
Y pris i noddi cymal yw £50. Bydd modd i cynifer o sefydiadau neu glybiau a phosib noddi a rhedeg pob cymal.
Dyma’r math o grwpiau gall noddi a rhedeg:
- Busnes – siop, tafarn, caffe, cwmni bysiau
- Ysgol – plant, rhieni ac athrawon ysgolion uwchradd
- Coleg – myfyrwyr prifysgol neu Coleg Ceredigion
- Clwb – aelwyd yr Urdd, clwb pêl-droed neu rygbi
- Mudiad – Ffermwyr Ifainc, Merched y Wawr, Rotari, WI
Os ydych chi’n rhedeg, cofiwch wisgo melyn – lliw y Ras!
Gwasgod Llachar
Bydd y Stiwardiaid sy’n rhedeg gyda’r Ras yn gorfod gwisgo siaced llachar Ras yr Iaith.